P-05-1120 Dylai Llywodraeth Cymru atal pob cyfnod o gyfyngiadau symud ar unwaith

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Adrian Mark Phillips, ar ôl casglu cyfanswm o 56 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae’r gyfradd farwolaethau oherwydd Covid19yn gymharol isel ac nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i gymryd rheolaeth ddiangen dros boblogaeth Cymru a niweidio busnesau a bywoliaethau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Nid oes dim cyfiawnhad dros weithredu’n ddidostur pan mai dim ond nifer fach o bobl sy’n marw o Covid19. Rydym yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn atal pob cyfnod o gyfyngiadau symud ar unwaith ac yn ailagor busnesau a chaniatáu i’r cyhoedd yn gyffredinol wneud eu penderfyniadau eu hunain am y ford y maent yn dewis byw.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru